Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 19 Chwefror 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 11.07 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Alun Ffred Jones Sandy Mewies (yn lle Ann Jones) Julie Morgan |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru Lynne Hamilton, Finance and Commercial, Welsh Government Gareth Morgan, Diwygio Ariannol, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones. Roedd Sandy Mewies yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-14.
2.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i ysgrifennu at y Pwyllgor yn amlinellu sut mae hi'n bwriadu ymdrin â'r pryderon a fynegwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei lythyr i'r Ysgrifennydd Parhaol ar 13 Tachwedd 2013. Cytunodd y Gweinidog i baratoi a chyflwyno adroddiadau blynyddol i'r Swyddfa Gyflwyno ar y cynllun Buddsoddi i Arbed, esbonio ystyr rhyddhau'n gynnar a nodi'r arbedion y mae'n eu disgwyl o dan y cynllun yn glir. Cytunodd hefyd i gadarnhau dyraniad y gyllideb sydd i'w weinyddu o dan y Gronfa Cymorth Dewisol.
3 Bil Drafft Cymru: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Bil drafft Cymru.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon y Papur Gorchymyn at y Pwyllgor, pan fydd Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi, er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y papur a gwneud sylwadau yn ei gylch, gan gynnwys yr amserlenni tebygol o ran gweithredu'r Bil.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Nodwyd y papurau.
4.1 Comisiwn y Cynulliad: Cyllideb Atodol 2013-14: Llythyr gan Angela Burns AC (12 Chwefror 2014)
4.2 Bil Drafft Cymru: Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru (14 Chwefror 2014)
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014: Ystyried y dystiolaeth
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-14 a chytunodd i ystyried adroddiad y Pwyllgor y tu allan i'r Pwyllgor oherwydd materion o ran amseru.
7 Bil Drafft Cymru: Ystyried y dystiolaeth
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid ynghylch Bil drafft Cymru a chytunodd i'r Cadeirydd ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch y pwyntiau a godwyd a hefyd i wahodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i'r Pwyllgor.
8 Y Dull o Weithio wrth Graffu ar y Gyllideb: Gwaith craffu effeithiol ar y Gyllideb gan Bwyllgorau
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd a chytunodd y Cadeirydd i ymateb ar sail y drafodaeth.
9 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-2015: Adroddiad cynnydd
9.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i gael y newyddion diweddaraf yn chwarterol os bydd y sefyllfa'n aros yr un fath. Os bydd cynnydd yn hynny o beth, cytunodd i gael y newyddion diweddaraf yn fisol.